DWLP10

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 |Development of post-16 Welsh language provision 

Ymateb gan Estyn | Evidence from Estyn

  Ymateb i Ymgynghoriad / Consultation Response  

 

Enw / Name:

Owen Evans 

Rôl / Role:

Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Dyddiad / Date:

08.04.24

Pwnc / Subject:

Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16

 

Ymateb Estyn

Rydym yn craffu’n gyson ar waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae gennym gylch arolygu penodol ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’i darparwyr Dysgu Cymraeg. Arolygom Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am y tro cyntaf yn 2021 a chynhelir yr ail arolygiad yn ystod tymor yr haf eleni. Crybwyllwyd ein harolygiad o’r Ganolfan yn helaeth yn yr Adolygiad cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol 2021 oedd yn ei dro’n dylanwadu ar y Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg.

Rydym yn gweld tystiolaeth o waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod arolygiadau a gwaith ymgysylltu â’r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Yn ystod blwyddyn addysgol 2024-25 byddwn hefyd yn cynnal arolygiad thematig i adolygu cynlluniau hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i’r sector addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd yr adolygiad yn gwerthuso effeithiolrwydd y cynlluniau amrywiol i ddatblygu medrau iaith ac addysgeg staff yn y sectorau hyn; o’r sawl sydd yn rhugl ac yn hyderus eu medrau Cymraeg i’r sawl sydd yn cychwyn ar eu taith o ddechrau siarad a defnyddio’r Gymraeg.

Mae gan y ddau gorff rôl allweddol i sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael yn y sectorau ôl-16 a chefnogi cyflawni nodau strategol Cymraeg 2050.

Dylid nodi ein bod wedi argymell yn ein hadroddiad arolygu ar y Ganolfan Genedlaethol y dylai hi ‘Rhannu methodoleg addysgu a chaffael ail iaith llwyddiannus gyda sectorau perthnasol eraill i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg gweithredol erbyn 2050’. Yn ystod arolygiad o ddarparwr Dysgu Cymraeg gwelwyd tystiolaeth o ddylanwad a phwysigrwydd cynyddol y sector Cymraeg i Oedolion. Nodwyd yn yr astudiaeth achos ganlynol: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu addysg.

Yn yr un adroddiad, ar dudalen 5, rydym yn dweud ‘ Ar y cyfan, mae dysgwyr (sector Cymraeg i Oedolion) yn caffael y Gymraeg yn gyflymach ac yn fwy effeithiol na disgyblion ar y lefelau cyfatebol mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg. Mae gan y sector CiO swyddogaeth hynod bwysig o ran dylanwadu ar ein system Addysg ar draws y rhychwant oedran i gynhyrchu siaradwyr gweithredol. Gwelir yn yr astudiaethau achos canlynol sut mae ethos a gweithredu’r sector yn llwyddo: Troi dysgwyr yn ddefnyddwyr y Gymraeg.

Dulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol sy’n galluogi dysgwyr i gymathu â’r gymuned Gymraeg

Credwn bod angen ystyried yn ofalus sgil effaith unrhyw leihad yn yr ymyraethau

ieithyddol a gwaith datblygu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar y Gymraeg ac ar gyfleoedd pobl ifainc i’w chaffael a’i defnyddio. Er nad ydym eto wedi arolygu’r Ganolfan eleni, rydym yn deall bod cryn waith cychwynnol wedi’I wneud i ddylanwadu ar, ac ehangu arfer effeithiol mewn sectorau eraill.

Rydym yn bryderus y gallai lleihad yn lefelau cyllid presennol danseilio’r cynnydd diweddar yn ehangder dylanwad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Heb o leiaf gynnal lefelau cyllid presennol rydym yn bryderus na welir cynnydd ar raddfa ystyrlon yn y  niferoedd sy’n siaradwyr Cymraeg gweithredol.